Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 22 Ionawr 2018

Amser: 14.45 - 17.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4504


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Nick Ramsay AC (Cadeirydd)

Mohammad Asghar (Oscar) AC

Neil Hamilton AC

Vikki Howells AC

Adam Price AC

Lee Waters AC

Tystion:

Tracey Burke, Llywodraeth Cymru

Jo-anne Daniels, Llywodraeth Cymru

John Howells, Llywodraeth Cymru

Emma Williams, Llywodraeth Cymru

Swyddfa Archwilio Cymru:

Anthony Barrett - Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol

Matthew Mortlock

Mike Usher

Staff y Pwyllgor:

Fay Bowen (Clerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AC.

</AI1>

<AI2>

2       Papur(au) i'w nodi

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

2.1 Gofynnodd Lee Waters AC am gywiro pwynt 4.2 yng nghofnodion 15 Ionawr 2018.

</AI2>

<AI3>

3       Y Rhaglen Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru: Sesiwn Dystiolaeth 5

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi, John Howells, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, ac Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Tai fel rhan o'i ymchwiliad i Raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru.

3.2 Cytunodd Tracey Burke i:

·         Ganfod a wahoddwyd sefydliadau'r trydydd sector i gymryd rhan yn y gweithdai ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ystod datblygiad y prosiect Pathfinder

·         Anfon rhestr o'r deg grant sy'n ffurfio'r grant integredig sengl arfaethedig

 

</AI3>

<AI4>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI4>

<AI5>

5       Y Rhaglen Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

5.1 Ystyriodd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd y dylid paratoi adroddiad byr.

5.2 Cytunwyd y dylai'r cwestiynau nas cyrhaeddwyd ynghylch Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar Ddigartrefedd gael eu hanfon at Lywodraeth Cymru yn ysgrifenedig.

</AI5>

<AI6>

6       Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru

6.1 Ystyriodd yr Aelodau yr ohebiaeth a ddaeth i law ar brosiect Cylchffordd Cymru a barn y mwyafrif o'r Pwyllgor oedd cynnal sesiwn lafar gyda'r Ysgrifennydd Parhaol ar 5 Chwefror.

</AI6>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>